Leisure Assistant
- Conwy County Borough Council
- Full Time
- Tregaron
Job Description
Ymunwch â Thim Hamdden Ffit Conwy
Ydych chi'n chwilio am rôl foddhaus lle nad oes yr un diwrnod yr un fath? Fel Cynorthwyydd Hamdden byddwch yn chwarae rhan hanfodol i gefnogi eich cymuned a helpu Canolfannau Hamdden Colwyn i weithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.
Mae Eirias yn chwilio am Gynorthwyydd Hamdden llawn amser sy'n frwdfrydig a llawn cymhelliant, i ymuno â'n tim dynameg yng Nghanolfan Hamdden Colwyn. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio patrwm sifft hyblyg gan gynnwys dyddiau, nosweithiau a phenwythnosau, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n mwynhau amrywiaeth a gweithio gyda phobl.
Pam ymuno â ni?
Yn Ffit Conwy rydym yn fwy na dim ond gwasanaeth hamdden - rydym yn gymuned. Byddwch yn rhan o dim cefnogol sy'n rhoi gwerth ar iechyd, lles a datblygiad personol. Hefyd fe gewch wisgo ein gwisg swyddogol sydd â brand a chynrychioli gwasanaeth sy'n gwneud gwir wahaniaeth i drigolion
Beth fyddwch chi'n ei wneud:
Fel Cynorthwyydd Hamdden byddwch yn greiddiol i'n canolfan hamdden fywiog, gan helpu i ddarparu profiad diogel, glân a phleserus i'n holl ddefnyddwyr. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys:
• Bod yn Achubwr Bywyd ar gyfer y pwll nofio
• Croesawu a chynorthwyo cwsmeriaid
• Sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel, glân ac wedi'u cyflwyno'n dda
• Cefnogi clybiau chwaraeon, hyfforddwyr ffitrwydd a digwyddiadau
• Gosod offer chwaraeon a'u tynnu i lawr
Bydd eich patrwm gwaith yn cynnwys cyfuniad o sifftiau yn ystod y dydd, nos a phenwythnosau, gyda chyfleoedd ar gyfer cyfraddau tâl gwell lle bo'n gymwys.
Amdanoch chi
Ydych chi'n mwynhau amrywiaeth, yn aros yn bwyllog o dan bwysau, ac yn gweithio'n dda yn annibynnol ac fel rhan o dim?
Byddwch wedi cyflawni, neu'n barod i weithio tuag at, y cymwysterau canlynol:
• Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau mewn Pwll RLSS
• Diogelu
• Cymorth Cyntaf
Byddai profiad blaenorol mewn hamdden neu amgylchedd tebyg sy'n wynebu cwsmeriaid o fantais.
Barod i ymgeisio?
Os ydych chi'n rhagweithiol, yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig dros helpu pobl, yna hoffem glywed gennych chi.
Ymgeisiwch rwan a helpwch ni i wneud pob ymweliad â chyfleusterau hamdden Ffit Conwy yn brofiad gwych.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Neil Williams, Rheolwr Hamdden, 01492 575594, [email protected]
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ac mae'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Work base: Colwyn Leisure Centre
Join Ffit Conwy's Leisure Team
Are you looking for a rewarding role where no two days are the same? As a Leisure Assistant, you will play a vital part in supporting your community and helping Colwyn Leisure Centres operate safely and efficiently.
Eirias is looking for an enthusiastic and motivated full time Leisure Assistant to join our dynamic team at Colwyn Leisure Centre. This role involves working a flexible shift pattern including days, evenings and weekends, and is ideal for someone who enjoys variety and working with people.
Why Join Us?
At Ffit Conwy, we are more than just a leisure service - we are a community. You will be part of a supportive team that values health, wellbeing and personal development. You'll also wear our branded uniform and represent a service that makes a real difference to residents.
What You Will Be Doing
As a Leisure Assistant, you will be at the heart of our busy and vibrant centre, helping to deliver a safe, clean and enjoyable experience for all users. Duties will include:
• Lifeguarding the swimming pool
• Welcoming and assisting customers
• Ensuring facilities are safe, clean and well presented
• Supporting sports clubs, fitness instructors and events
• Setting up and taking down equipment
Your working pattern will cover a mixture of daytime, evening and weekend shifts, with opportunities for enhanced pay rates where applicable.
About You
Do you enjoy variety, remain calm under pressure, and work well both independently and as part of a team?
You will have achieved, or be willing to work towards, the following qualifications:
• RLSS National Pool Lifeguard Qualification
• Safeguarding
• First Aid
Previous experience in leisure or a similar customer facing environment would be an advantage.
Ready to Apply?
If you are proactive, positive and passionate about helping people, we would love to hear from you.
Apply now and help make every visit to Ffit Conwy's leisure facilities a great experience.
Due to the nature of the role, this post is subject to a satisfactory Disclosure and Barring Service (DBS) check.
Manager details for informal discussion: Neil Williams, Leisure Manager, 01492 575594, [email protected]
Welsh Language Skills: The ability to speak Welsh is essential and the ability to read and write in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We're passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Proud member of the Disability Confident employer scheme