Back to search

4137 - Rheolwr Terminoleg - Cymraeg yn hanfodol

Civil Service

Job Description

Job summary

Maer swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at waith yr Uned Ddatblygu i ddarparu cefnogaeth, arweiniad ac adnoddau i Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Dymar uned syn gyfrifol am ddarparu arweiniad a chefnogaeth ir Gwasanaeth Cyfieithu cyfan ar Llywodraeth yn ehangach ar faterion yn ymwneud ag arddull cyfieithu, terminoleg, sicrhau ansawdd, datblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol, a hyrwyddor Gwasanaeth fel canolfan ragoriaeth.

Job description

Prif amcanion y swydd yw:

  • Cynnal ymchwil terminolegol a rhoi cyngor arbenigol ar dermau yn y Gymraeg, gan sicrhau y gwneir penderfyniadau gwydn o ansawdd uchel, yn unol â safonau ac egwyddorion cydnabyddedig y maes
  • Cynnal a chynorthwyo i ddatblygu adnoddau terminoleg blaenllawr Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cronfa gyhoeddus TermCymru ac adnoddau terminoleg eraill BydTermCymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod â hygrededd uchel, ac yn bodloni gofynion y defnyddwyr
  • Hyrwyddo arferion safonol a datblygiad o ran terminoleg ac enwau lleoedd yn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn Llywodraeth Cymrun ehangach.

Rhoddir hyfforddiant llawn ym meysydd gwaith terminoleg ac enwau lleoedd ir ymgeisydd llwyddiannus.

Person specification

Terminoleg

  • Cefnogir Arweinydd Terminoleg i gynnal prosesau safoni terminoleg, trwy gyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion, ar gyfer dogfennau â phroffil neu risg uchel (gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol)
  • Darparu cyngor rhagweithiol ar derminoleg mewn dogfennau â phroffil neu risg uchel, neu rai syn cynnwys problemau terminoleg newydd/cymhleth, trwy gribo am dermau, cyflawni ymchwil ac ymgynghori trylwyr a pharatoi cynigion
  • Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau ad hoc gan gyfieithwyr ac eraill
  • Cynghori ar derminoleg mewn ymateb i geisiadau brys gan Weinidogion
  • Paratoi cofnodion addas ar gyfer y gronfa dermau, a gwirio ansawdd allforiadau or gronfa
  • Cefnogir Arweinydd Terminoleg i ddatblygu canllawiau ac arweiniad ar agweddau penodol ar derminoleg a materion cysylltiedig
  • Cynorthwyo i gynnal ansawdd y penderfyniadau ar argymhellion a wneir, gan gynnwys:
    • Sicrhau bod penderfyniadau ac argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac egwyddorion cydnabyddedig, a bod y rhesymeg yn cael ei hesbonion glir
    • Trafod yn ôl yr angen â rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewnol ac allanol, gan gynnwys cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyfieithu, arbenigwyr iaith/terminoleg, arbenigwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr polisi/pwnc
    • Cadw cofnod or penderfyniadau, ar ymchwil ar drafodaeth syn sail iddynt, a sicrhau bod trywydd archwilio clir ar gael
    • Sicrhau bod penderfyniadaun cael eu cymeradwyo ar y lefelau priodol, yn enwedig pan fyddant yn wleidyddol sensitif neun ddadleuol.

Enwau lleoedd ac arwyddion ffyrdd

  • Ymchwilio a drafftio cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd ir Gwasanaeth Cyfieithu a Llywodraeth Cymru yn ehangach, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig
  • Cefnogir Arweinydd Terminoleg ar waith Panel Safoni Enwau Lleoedd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
  • Ymchwilio a drafftio cyngor ar destun Cymraeg arwyddion ffyrdd, gan ddilyn egwyddorion cydnabyddedig.

Systemau ac adnoddau

  • Cynnal prosiectau i sicrhau bod cofnodion TermCymrun gyfredol, o ansawdd uchel, ac yn gyson
  • Sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd addas i adnoddau a datblygiadau terminolegol y Gwasanaeth Cyfieithu ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol
  • Cefnogir Arweinydd Terminoleg i sicrhau bod yr adnoddau terminoleg yn addas ir diben, yn cefnogir cyfieithwyr ir graddau mwyaf posibl, ac ar gael yn gyhoeddus
  • Cynnal cyflwyniadau a darparu hyfforddiant ar ddefnyddior pecynnau ar systemau a gynhelir gan yr Uned Ddatblygu, ee y gronfa dermau, TermCymru, BydTermCymru
  • Cyfathrebu â sefydliadau allanol (ee Yr Uned Technoleg Iaith ym Mhrifysgol Bangor, Geiriadur Prifysgol Cymru, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol eraill), er mwyn rhannu a dysgu am arferion da wrth ym meysydd terminoleg ac enwau lleoedd
  • Meithrin arbenigedd er mwyn cefnogi a chynghori ar ddefnydd addas o offer technolegol ym maes rheoli terminoleg, gan gynnwys systemau a phrosesau priodol ar gyfer cribo termau, trafod a safoni termau gan sicrhau trywydd archwilio manwl, cynnal cronfeydd termau, a chyhoeddi a lledaenu termau.

Cyffredinol

  • Cydweithio â'r Swyddog Datblygu ar faterion a thasgau pan for swyddog hwnnw yn cefnogir gwaith terminoleg, gan ddirprwyo yn ôl y gofyn
  • Cynorthwyor Arweinydd Terminoleg i gynllunio rhaglen waith a phrosiectau unigol, gan ddirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn
  • Gan ddibynnu ar gryfderaur unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y maer Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr
  • Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais Pennaeth yr Uned Ddatblygu neu Bennaeth y Proffesiwn.

Yodel are hiring now

Working at Yodel, they promise to support you, develop you and give you all the tools you need to do a great job. They have a range of opportunities across the UK now - why not see if Yodel have the perfect role for you?

See Yodel jobs

Good luck with your application