Practical Reserve Work (Cwm Clydach)

Job Description
*Please scroll down for English.*
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr criw gwaith i ymuno â ni ar ein gwarchodfeydd. Mae gwarchodfeydd natur yr RSPB yn llefydd arbennig i bobl a bywyd gwyllt ac rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i sicrhau bod y cynefinoedd hyn yn ffynnu ac mewn cyflwr da. Mae'r rôl yn addas ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed.
Efallai ei bod yn ymddangos bod mannau gwyllt fel hyn wedi bod yno erioed. Ond yn aml iawn mae'n rhaid i ni weithio'n galed iawn i gynnal cynefinoedd er mwyn iddynt fod yn y cyflwr gorau ar gyfer bywyd gwyllt. Rydym wedi colli llawer o dirweddau gwyllt, felly mae angen ychydig o ofal ychwanegol ar y mannau bach sydd gennym.
Fel Gwirfoddolwr Grwp Gwaith Gwarchodfa, byddwch yn ymuno â thim i wneud gwaith ymarferol rheolaidd i reoli cynefinoedd:
- Torri a chlirio llystyfiant.
- Cynnal a chadw a rheoli offer a chyfarpar.
- Creu a chynnal seilwaith i ymwelwyr, fel llwybrau a meinciau.
- Dilyn cynlluniau gwaith blynyddol.
- Dilyn protocolau Iechyd a Diogelwch.
Os ydych chi'n mwynhau bod yn yr awyr agored, cwrdd â phobl newydd a gwneud gwaith cadwraeth ymarferol, gallai'r rôl fod yn gyfle perffaith i chi. Bydd y rôl yn cynnwys cryn dipyn o weithgarwch corfforol, felly byddwch yn gallu cadw eich lefelau ffitrwydd yn ogystal â gofalu am eich iechyd meddwl a'ch llesiant. Byddwch yn cael y pleser o wybod eich bod yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at gadwraeth natur, ac efallai y byddwch yn teimlo bod diogelu byd natur yn yr ardal rydych chi'n gweithio i'w gwarchod yn rhywbeth gwerth chweil i'w wneud.
Rydym yn dim cyfeillgar a chefnogol. Os ydych chi'n gwirfoddoli i ddysgu sgiliau newydd a dysgu am waith cadwraeth bywyd gwyllt, fe welwch y bydd ein tim yn fwy na pharod i'ch helpu ar y daith honno. Mae'r tim yn cyfarfod yn fisol ar ddydd Gwener, gyda'r gwirfoddolwyr yn cael gwybod am y dyddiad a'r dasg ymlaen llaw.
*Diolch am ddarllen y disgrifiad o'r rôl hon. Bydd clicio ar **'mwy am y rôl'** a'r pdf i'w lawrlwytho yn rhoi'r proffil rôl generig ar gyfer y cyfle hwn. Ystyr 'proffil rôl' ydy'r teulu o rolau y mae'r cyfle'n perthyn iddo, ac mae'n cyflawni gofynion fetio a hyfforddi ac efallai na fydd yn cyd-fynd yn union â'r rôl sy'n cael ei disgrifio uchod.*
---
We are looking for work party volunteers to join us on our reserves. RSPB nature reserves are special places for people and wildlife and we rely on volunteers to keeps these habitats thriving and in good shape. This role is suitable for under 18's.
It might seem like these wild places have always just been there. But quite often we have to work really hard to maintain habitats to be in the best condition for wildlife. We have lost a lot of wild landscapes, so the small places that we do have, need a bit of extra care.
As a Reserve Work Party Volunteer you will be joining a regular practical work party team to undertake practical habitat management tasks:
- Cutting and clearing vegetation.
- Maintaining and managing tools and equipment.
- Creating and maintaining visitor infrastructure, such as paths and benches.
- Following annual work plans.
- Following Health and Safety protocols.
If you enjoy being outdoors, meeting new people and hands on conservation work, then this role could be the perfect opportunity for you. This role does involve a reasonable amount of physical activity, so will enable you to keep your fitness levels high, as well as helping your mental health and wellbeing. You will have the satisfaction of knowing that you are making a genuine contribution to nature conservation, and you might find it rewarding to safeguard nature in the area you are working to protect.
We are a friendly and supportive team. If you are volunteering to learn new skills and gain knowledge about wildlife conservation work, you will find that our team will be more than happy to help you on that journey. The team meet monthly on a Friday, with the date and task communicated to volunteers in advance.
*Thank you for reading this role description. Clicking on **'more about this role'** and the downloadable pdf will give you just the generic role profile for this opportunity. A role profile is the family to which an opportunity belongs and informs vetting and training requirements and may not be an exact fit to the role described above.*
*Photo: David Wootton (rspb-images.com)*