Practical Reserve Work (North Wales Wetlands) / Gwaith Ymarferol ar Warchodfa (Gwlyptiroedd Gogledd Cymru)

Job Description
*Scroll down for English*
Hoffech chi warchod rhywfaint o fywyd gwyllt mwyaf prin yng ngwlyptiroedd Gogledd Cymru? Rydyn ni'n dibynnu ar ein tim ymroddedig o wirfoddolwyr i'n helpu ni i reoli a chynnal cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau adar sydd dan fygythiad, fel Adar y Bwn, Bodaod y Gwerni, a Chornchwiglod, yn ogystal ag arbenigwyr gwlyptirol eraill fel Llygod y Dwr, Mursenod Glas Amrywiol, a Phelenllys Gronynnog.
Mae criwiau gwaith yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau drwy'r tymhorau, dyma rai enghreifftiau o'r gwaith y gallech chi gyfrannu ato:
- Torri a chlirio llystyfiant i gadw ein cynefinoedd mewn cyflwr da
- Cynnal ffensys i warchod nythod a chywion Cornchwiglod ac i ddarparu ein tir pori cadwraethol
- Cael gwared ar Jac y Neidiwr ymledol er mwyn diogelu planhigion gwlyptirol prin
- Adeiladu blychau i Fôr-wenoliaid i roi lloches i gywion yn nythfeydd Môr-wenoliaid Ynys Môn
Mae gweithio yn yr awyr agored gyda ni yn ffordd wych o gwrdd â phobl eraill sy'n hoff o fyd natur, dysgu am eich amgylchedd lleol, datblygu sgiliau newydd, a chadw'n heini, gan helpu byd natur ar yr un pryd.
Mae ein gwirfoddolwyr fel arfer yn cwrdd yng Nghors Ddyga bob dydd Iau 9:30yb - 4yh. Does dim angen unrhyw sgiliau na phrofiad penodol i ymuno, dim ond parodrwydd i weithio yn yr awyr agored mewn tywydd cyfnewidiol gyda gweddill y tim. Gall yr RSPB dalu treuliau sy'n gysylltiedig â gwirfoddoli i ni, gan gynnwys costau teithio i'r man gwirfoddoli ac oddi yno.
Os ydych chi'n meddwl y byddech chi'n addas ar gyfer y rôl, neu os hoffech chi ddysgu mwy am wirfoddoli gyda ni, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi!
*Diolch am ddarllen y disgrifiad o'r rôl hon. Bydd clicio ar **'mwy am y rôl'** a'r pdf i'w lawrlwytho yn rhoi'r proffil rôl generig ar gyfer y cyfle hwn. Ystyr 'proffil rôl' ydy'r teulu o rolau y mae'r cyfle'n perthyn iddo, ac mae'n cyflawni gofynion fetio a hyfforddi ac efallai na fydd yn cyd-fynd yn union â'r rôl sy'n cael ei disgrifio uchod.*
...
Would you like to protect some of North Wales' rarest wetland wildlife? We rely on our dedicated team of volunteers to help us manage and maintain habitats for threatened bird species such as Bitterns, Marsh Harriers, and Lapwing, as well as other wetland specialists like Water Voles, Variable Damselflies, and Pillwort.
Work parties cover a range of activities throughout the changing seasons, here are some examples of the work you could contribute to:
- Cutting and clearing vegetation to keep our habitats in good condition
- Maintaining fences to protect the nests and chicks of Lapwing and deliver our conservation grazing
- Removal of invasive Himalayan Balsam to safeguard rare wetland plants
- Building Tern boxes to shelter chicks across Anglesey's Tern colonies
Working outdoors with us is a great way to meet other like-minded nature lovers, learn about your local environment, develop new skills, and keep fit, all whilst helping nature.
Our volunteers usually meet at Cors Ddyga every Thursday 9:30am-4pm. No specific skills or experience are required to join in, just a willingness to work outdoors in changeable weather with the rest of the team. The RSPB can cover expenses associated with volunteering for us, including mileage to and from the place of volunteering.
If you think you would be suitable for the role, or just want to learn more about volunteering with us, we would love to hear from you!
*Thank you for reading this role description. Clicking on **'more about this role'** and the downloadable pdf will give you just the generic role profile for this opportunity. A role profile is the family to which an opportunity belongs and informs vetting and training requirements and may not be an exact fit to the role described above.*