Surveyor (Not on a Reserve) (Syrfëwr (Ddim ar Warchodfa) - Natur am Byth! - Ynys Môn)

RSPB

Job Description

*Please scroll down for English*

Mae RSPB Cymru yn arwain y prosiect 'Llyn ac Ynys Môn' o fewn y rhaglen ehangach **Natur am Byth!** Drwy weithio gyda rheolwyr tir, cymunedau lleol a gwirfoddolwyr, byddwn ni'n gwella cynefinoedd ac yn hybu ymwybyddiaeth o 17 o rywogaethau penodol ym Mhenrhyn Llyn ac Ynys Môn, gan gynnwys **y gylfinir, y frân goesgoch, y cor-rosyn brith a'r saerwenynen fawr**. Byddwn ni'n canolbwyntio ar laswelltir gwlyb, rhostir yr iseldir, creigiau meddal, twyni tywod a chorsydd gan ymdrechu i adfer rhywogaethau drwy fonitro, rheoli cynefinoedd, cynnal digwyddiadau hyfforddi a chydweithio â rheolwyr tir lleol.

Mae'r rôl hon yn gyfle i gael effaith uniongyrchol ar rywogaethau, natur a'r amgylchedd. Cewch gyfle i **ddatblygu profiad a sgiliau ymarferol mewn perthynas â chynnal arolygon**. Dyma gyfle i fod allan ym myd natur ac elwa o ran eich iechyd a'ch lles eich hun. Bydd y rôl hon yn addas i unrhyw un sy'n mwynhau bod allan yn yr awyr agored. Yn aml, byddwch yn dychwelyd i'r un llefydd dro ar ôl tro wrth fonitro, felly byddwch yn gallu arsylwi ar dro'r tymhorau. Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i ddatblygu eich gwaith gwirfoddol gyda'r RSPB a chyfrannu at ein strategaeth Achub Byd Natur.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill [**yma**](https://community.rspb.org.uk/getinvolved/wales/b/wales-blog/posts/natur-am-byth-in-llyn-and-mon).

Os ydych chi'n meddwl y byddech chi'n addas ar gyfer y prosiect, neu os hoffech chi ddysgu mwy am wirfoddoli gyda ni, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi!

*Diolch am ddarllen y disgrifiad o'r rôl hon. Bydd clicio ar 'mwy am y rôl' a'r pdf i'w lawrlwytho yn rhoi'r proffil rôl generig ar gyfer y cyfle hwn. Proffil rôl yw'r teulu y mae cyfle yn perthyn iddo ac mae'n cyflawni gofynion fetio a hyfforddi ac efallai na fydd yn ffitio'n union i'r rôl sy'n cael ei disgrifio uchod.*

...

RSPB Cymru are leading on the **'Llyn ac Ynys Môn' project within the wider Natur am Byth! programme**. Working with land managers, local communities and volunteers we will improve habitat and raise awareness for 17 target species on the Llyn Peninsula and Ynys Mon, including **curlew, chough, spotted rockrose and large mason bee**. We're going to be focusing our efforts on wet grasslands, lowland heath, soft cliffs, sand dunes and fens, in which we will deliver species recovery through monitoring, habitat management, training events and collaborating with local land managers.

This role offers the opportunity to make a direct impact for species, nature and the environment. You will have a chance to **develop hands on experience and skills around surveying**. An opportunity to be out in nature and benefit your own health and wellbeing, this role will suit someone who enjoys being outdoors. Monitoring can often take you to the same places time and again, so you will see the season changes.

This role offers a fantastic opportunity to develop your volunteering with the RSPB and contribute to our Saving Nature strategy by taking on this role.

Find it more about the work planned [**here**](https://community.rspb.org.uk/getinvolved/wales/b/wales-blog/posts/natur-am-byth-in-llyn-and-mon).

If you think you would be suitable for the project, or just want to learn more about volunteering with us, we would love to hear from you!

*Thank you for reading this role description. Clicking on 'more about this role' and the downloadable pdf will give you just the generic role profile for this opportunity. A role profile is the family to which an opportunity belongs and informs vetting and training requirements and may not be an exact fit to the role described above.*

Good luck with your application