Youth Group Main Leader (Arweinydd Grwp Ieuenctid)
- RSPB
- Part Time
- Machynlleth

Job Description
*Please scroll down for English*
Yn yr RSPB, rydyn ni'n frwd dros bobl ifanc ac am fyd natur. Mae gan ein grwpiau ieuenctid y potensial i chwarae rhan bwysig iawn mewn cymunedau lleol, gan gynnig cyfleoedd rheolaidd i bobl ifanc ddod i adnabod y llefydd gwyllt sy'n agos atynt a chael eu cefnogi gan oedolion brwdfrydig sy'n gwirfoddoli. Mae ein grwpiau ieuenctid yn hwyliog ac yn gymdeithasol, sy'n ennyn diddordeb pobl ifanc a'u galluogi i ddarganfod a dysgu pethau newydd a fydd yn eu grymuso yn y pen draw i helpu i achub byd natur.
Mae'r rôl hon yn ymwneud yn bennaf â gweithio ochr yn ochr â thim o arweinwyr cynorthwyol ac is-arweinwyr i gynnal gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i archwilio a datblygu angerdd dros fyd natur.
Mae arweinwyr fel arfer yn treulio dwy i bum awr y mis y tu allan i gyfarfodydd, yn dibynnu ar sut mae'r cyfrifoldebau'n cael eu rhannu o fewn arweinwyr y grwp a pha weithgareddau sy'n cael eu cynllunio.
**I ddarllen y rhestr gyflawn o dasgau a phrofiad defnyddiol, cliciwch ar 'mwy am y rôl' hon isod.**
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi'r sgiliau dymunol ar hyn o bryd gan ein bod ni yma i'ch cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau fel rhan o'ch hyfforddiant a'ch datblygiad parhaus yn y rôl hon.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i chi ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiadau, yn ogystal â'ch angerdd dros fyd natur, tra'n sicrhau bod y Grwp Ieuenctid yn ffynnu.
**Beth am gysylltu i weld sut byddech chi'n ffitio yn y rôl?**
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd ethnig gwahanol.
---
At the RSPB we are passionate about young people and about nature. Our youth groups have the potential to play a really important role in local communities, offering young people regular opportunities to get to know the wild places close to them and to be supported by enthusiastic adult volunteers. Our youth groups are fun and sociable, keeping young people engaged and interested whilst enabling them to discover and learn new things that will ultimately empower them to help save nature.
This role mainly involves working alongside a team of assistant and junior leaders to run activities that encourage young people to explore and develop a passion for nature.
Leaders usually spend two to five hours per month outside of meetings on the role depending on how the responsibilities are shared within the group leaders and what activities are planned.
**To read the complete list of tasks and helpful experience, please click on 'more about this role' below.**
Don't worry if you don't have the desirable skills currently as we are here to support you to build your skills as part of your ongoing training and development in this role.
This role offers an exciting opportunity to make use of your skills and experiences, as well as your passion for nature, whilst ensuring the Youth Group flourishes.
**Why not get in touch and see how you would fit in the role?**
We particularly welcome applications from Welsh speakers and from different ethnic backgrounds.